Cardiff Bus, which operates services across the Welsh capital and the adjacent Vale of Glamorgan, has picked up a major award for its approach to online flexible learning for its staff. Winning the prize in the Large Company category in this year’s learndirect Achievement Awards means that the bus company will now go forward to the national awards ceremony in London with a chance of winning the UK title.
The Large Company Award category in the prestigious annual learndirect Achievements Awards is designed to recognise businesses with more than 250 staff who have supported employees to undertake learndirect learning.
Cardiff Bus identified a gap in IT skills among its office-based staff and with the company’s training provider, Ecom Learning Solutions, the company decided to offer all 60 of their office-based staff an opportunity to access the European Computer Driving Licence (ECDL) qualification via learndirect.
Over the last 6 months, Cardiff Bus put all its staff through an online IT training analysis before enrolling them on the ECDL essentials course. Staff are already completing their tests and Cardiff Bus has already identified a second group of employees who will be starting the same process.
Reacting to the award which was presented on Monday 6 July at a glittering awards ceremony in the Millennium Stadium, Cardiff Bus’ HR Manager Amanda Canterbury said: “Introducing flexible online learning through learndirect into the organisation has been an excellent way to encourage staff to gain essential new skills. As an organization, we have reaped the benefits of having staff with confidence in their ICT skills”.
Cardiff companies had a very successful day, with S4C also highly commended in the Small/Medium Company category.
The learndirect Achievement Awards ceremonies are taking place across the UK during the summer to celebrate regional winners. Welsh winners go forward as finalists to a national awards ceremony in London and are in with the chance of winning an exciting prize.
For more information about the awards, visit the website at www.learndirect.co.uk/awards
Mae Bws Caerdydd, sy’n rhedeg gwasanaethau ledled prifddinas Cymru a Bro Morgannwg, wedi ennill gwobr bwysig am ei agwedd at ddysgu hyblyg ar-lein ar gyfer ei staff. Mae ennill y wobr yn y categori Cwmni Mawr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad learndirect eleni’n golygu y bydd y cwmni bysiau’n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol yn Llundain, ac yn cael cyfle i ennill tlws y DU.
Nod y categori Cwmni Mawr yng Ngwobrau Cyrhaeddiad blynyddol learndirect yw cydnabod busnesau sydd â mwy na 250 o staff sydd wedi helpu eu gweithwyr cyflogedig i ddilyn cyrsiau learndirect.
Gwelodd Bws Caerdydd fod bwlch yn sgiliau TG ei staff swyddfa ac, ynghyd ag Ecom Learning Solutions, darparwr hyfforddiant y cwmni, penderfynodd roi cyfle i bob un o’i 60 o staff swyddfa ennill y cymhwyster Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) trwy learndirect.
Dros y 6 mis diwethaf, cyflwynodd Bws Caerdydd ddadansoddiad hyfforddiant TG ar-lein i bob aelod staff cyn eu hymrestru ar y cwrs ECDL. Mae staff eisoes yn cwblhau eu profion ac mae Bws Caerdydd eisoes wedi neilltuo ail grŵp o weithwyr cyflogedig a fydd yn dechrau ar yr un broses.
Wrth ymateb i’r wobr a gyflwynwyd dydd Llun 6 Gorffennaf mewn seremoni wobrwyo fawr yn Stadiwm y Mileniwm, meddai Amanda Canterbury, Rheolwr Adnoddau Dynol Bws Caerdydd: “Mae cyflwyno dysgu ar-lein hyblyg trwy learndirect i’r sefydliad wedi bod yn ffordd wych o annog staff i ennill sgiliau allweddol newydd. Fel sefydliad, rydym wedi elwa’n fawr ar gael staff sy’n hyderus yn eu sgiliau TGCh”.
Cafodd cwmnïau Caerdydd ddiwrnod llwyddiannus iawn, gydag S4C hefyd yn derbyn canmoliaeth uchel yn y categori Cwmni Bach/Canolig.
Mae seremonïau Gwobrau Cyrhaeddiad learndirect yn cael eu cynnal ledled y DU yn ystod yr haf i longyfarch enillwyr lleol. Bydd enillwyr Cymru’n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn y rownd derfynol yn Llundain, ac yn cael cyfle i ennill gwobr gyffrous.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i’r wefan yn www.learndirect.co.uk/awards